hafan Cymdeithas Cymry Manceinion Capeli Cymraeg yn y cylch Dathliadi Gwyl Dewi
 
Change language to English

2020

 

choir

 

Cyngerdd Gwyl Ddewi 2014

Yn anffodus, oherwydd gwaith adeiladu yn y Coleg Cerdd, ni fu cyngerdd yno yn 2014. Yn ei le cawsom gyngerdd wedi ei drefnu yn Eglwys Emmanuel, Didsbury.

Edrychwn ymlaen at gael dychwelyd i'r neuadd yn y Coleg Cerdd ar yr 28ain o Chwefror, 2015 gyda gwledd gerddorol, Côr Godre'r Aran, ar eich cyfer.

Eglwys Emmanuel,

gyda



Chôr Gore Glas
(côr cymysg o Fachynlleth),



Michaela Parry mezzo-soprano
(ennillydd ein Gwobr Ganu 2013 yn y Coleg Cerdd)

ac



Elfair Grug Dyer, telyn
(ennillydd y Rhuban Glas Offerynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2013).

 

Bu'r cyngerdd uchod yn llwyddianus dros ben ac yn fodd i gasglu dros £1100 at Ysbyty Christie.
Diolch i bawb am eu cefnogeth.

 

 

Cyngerdd 2013 yn y Coleg Cerdd

Cyngerdd 2012 yn y Coleg Cerdd

 

 

 

 

Cyngerdd 2011 yn y Coleg Cerdd

 

 

Cyngerdd 2010 yn y Coleg Cerdd

Ar nos Sadwrn, 6ed Mawrth 2010, cawsom ein diddori gan Gôr Meibion Caernarfon gyda'u arweinydd Delyth Humphreys

a Chôr Ysgol Glanaethwy o dan Cefin Roberts,

- dau gôr hollol wahanol eu naws yn rhoi i ni noson fythgofiad.

Cawsom ein swyno hefyd gan Alaw Tecwyn, merch ifanc o Rhiw, sydd yn astudio yma yn y Coleg Cerdd. Mae Alaw wedi ennill dros 150 o wobrau am ganu, a hi oedd ennillydd Gwobr Ganu Cymdeithas Cymry Manceinion yn 2009.

 

  Alaw Tecwyn gyda Elwyn Evans, ysgrifenydd cerdd

Ni fyddai cyngerdd Cymraeg yn gyflawn heb gael clywed y delyn, ac fe gawsom gyfraniad hyfryd gan Elfair Grug Dyer, merch ifanc arall o Lyn sy'n astudio yn y Coleg Cerdd o dan Eira Lynn Jones.