hafan Cymdeithas Cymry Manceinion Capeli Cymraeg yn y cylch Dathliadi Gwyl Dewi
Oaker Avenue

Mae yna oedfa bob Sul yn Altrincham am 11.00 y bore ac yn Noddfa Oaker Avenue am 2.30 y prynhawn. Mae'r grwp yn Warrington yn benthyg Capel Wycliffe bron bob nos Sul am 6.00 yr hwyr. Fe welwch isod gyfeiriadau'r capeli, ac y mae croeso cynnes i bawb sy'n ymuno â ni.

I'r plant mae gennym y 'Clwb Cwl' sydd yn cyfarfod yn Altrincham pob trydyddd Sul o'r mis.

Mae'r Barch. Eleri Edwards, ein gweinidog rhan amser, wedi ymddeol yn ddiweddar, ond yn dal i roi gwasanaeth gwirfoddol i'r capeli Cymraeg. Daw gweinidogion o Gymru hefyd atom o dro i dro i gymeryd gwasanaethau.

Parch Eleri Edwards

"Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr"

Salm 119, 105

Cynhelir gwasanaethau bob Sul

Altrincham <map>
Willow Tree Road
Altrincham
WA14 2EG
11.00am
Didsbury <map>
Noddfa Oaker Avenue
West Didsbury
M20 2XH
2.30pm
Warrington <map>
Bewsey Street
Warrington
WA2 7JB
6.00pm
Y Gymanfa Ganu
 
Cynhelir y Gymanfa flynyddol yng nghapeli Altrincham ag Oaker Avenue bob yn ail. Bydd ymarfer brwd yn cymeryd lle dros fisoedd y gaeaf o dan ein harweinyddion lleol, Trefor Davies ag Eflyn Evans, i ddysgu'r emynau newydd ac adfywio'r hen. Bu Cymanfa Ganu 2011 yn Oaker Avenue o dan arweiniad Mr Trebor Lloyd Evans, Llangwm, gyda Mrs Lilian Bury wrth yr organ. Mae'r Gymanfa eleni yn Altrincham ar brynhawn Sul, 20fed Mai 2012, o dan arweiniad Mrs Mary Lloyd Davies, Llanuwchllyn.
Eisiau dysgu Cymraeg?
Cynhelir dosbarth i rai yn dysgu Cymraeg ar fore dydd Iau yng nghapel Noddfa Oaker Avenue, West Didsbury.
Am fanylion, cysylltwch a Mrs Lilian Bury, 0161 498 6118