hafan Cymdeithas Cymry Manceinion Capeli Cymraeg yn y cylch Dathliadi Gwyl Dewi
Change language to English

 

Dathliadau Gwyl Ddewi, Noddfa Oaker Avenue 2011

Yr oedd y cinio eleni ar ddydd Sadwrn, 26ain Chwefror 2011, a'r gwr gwadd oedd Mr Gwyn A.Evans, F.R.C.S., Croesoswallt.

 

Bydd y cinio 2012 ar ddydd Sadwrn, 25ain Chwefror 2012, a'r gwr gwadd fydd y Barnwr H. Eifion Roberts, Q.C., D.L.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mrs Eflyn Evans 0161 445 9366

 

Cinio Gwyl Dewi, Capel Willow Tree Rd, Altrincham

Dydd Iau, Mawrth 1af, 2012

Cynhelir ein cinio yn festri’r capel am 7.00 gyda bwyd wedi ei baratoi gan ‘The Stables’, Altrincham. Noson lawen i’w dilyn.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mrs Lilian Bury, 0161 498 6118

 

Dathliadau Gwyl Ddewi, Noddfa Oaker Avenue 2010

 Mae cyfeillion Noddfa Oaker Avenue ers llawer blwyddyn wedi dathlu Gwyl ein nawdd sant gyda phryd bwyd wedi ei baratoi gan ferched yr eglwys. Yna bydd y gwr gwadd yn annerch ac yn cynnig y llwnc destun i Dewi Sant. Yn 2010, y gwr gwadd oedd y Dr Haydn Edwards, Llangefni, hen ffrind i ni yma oddi ar ei ddyddiau yn astudio ym Mhrifysgol Salford. Wedi 'galw'r siroedd', cawsom adloniant gan ein sêr lleol.